Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mai 2020
Amser:
08.45 -
10.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6218
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Helen Mary Jones AS (Cadeirydd dros dro) Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Hoffwn groesawu’r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2.1 Holodd yr Aelodau Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch COVID-19 a'i effaith ar y rhai sy'n gweithio yn y Celfyddydau yng Nghymru.
Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn:
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru yn cadarnhau y bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y materion a godwyd yn eu llythyr.
Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth.
Nododd yr Aelodau y briff.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad byr ar effaith yr achosion o COVID-19 ar sector y celfyddydau gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.